December 24, 2024

Un tro, roedd Daf wedi dechrau creu ei CV, gan yr oedd e wedi cael llond bola o Jeff, ac oedd eisiau cymryd rhan mewn rhai straeon eraill arno. Dygai ei frecwast yn barhaol. Ac ei ginio. Ac ei swper.

– Be’ ti ‘neud? meddai Jeff, wrth iddi sylwi ar Daf yn gweithio ar ei ddogfen.
– Creu fy CV ydw i, atebodd Daf, – Sai’n gallu parhau fan hyn. Llwyth o hen lol yw e. Rwy’n casàu popeth.
– Gad imi gâl cipolwg ‘te, meddai Jeff, yn anwybyddu cwyn Daf. Darllenodd mewn llais pwysig. – Cath strategaeth uwch, sydd yn arbenigwr mewn logisteg dosbarthiadau a phrofiadau seicedelig. Ma fe’n gelwyddau i gyd!
– Wel, dim cweit i gyd.
– Ti jyst yn cymryd dy gyffuriau a llyfu dy draed. Ti heb yrru dy fan ‘slawer dydd, hyd yn oed, meddai Jeff yn anghrediniol.
– Wel ‘na fe.
– Ti off ‘te, go iawn? gofynnodd Jeff, ei hapusrwydd yn amlwg.
– Ydw. Paid swnio mor drist, meddai Daf.
– Wel, bydd mwy o fwyd i fi, o leia.
– Ti’n bwyta fy mwyd i gyd beth bynnag.

Meddyliodd Jeff am eiliad.

– Nes i greu fy CV unwaith, t’mod, meddai hi.
– Be ddigwyddodd iddo fe? gofynnodd Daf, heb ddiddordeb.
– Bwytais i fe, meddai Jeff, a bant â hi.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.