December 3, 2024

– Daf, meddai Jeff y gath un tro, – Mae gen i syniad busnes.
– Beth yw e? gofynnodd Daf, heb ddiddordeb.
– Dw i’n mynd i annog i bawb brynu selsig braenedig Franz Kafka, cymryd eu harian, ac wedyn eu taflu nhw yn y môr.
– Wel, mae’n syniad, yn sicr, meddai Daf, yn llyfu ei draed.
– Dyna gyfalafiaeth i ti, meddai Jeff.
– Galla i weld dim ond un broblem, meddai Daf. – Ti’n mynd i redeg mas o selsig.
– Gallwn ni ofyn i Keith y gwrden i actio fel selsigen.
– O’r gore.

Ymhen wythnos neu ddwy, roedd y cathod yn gyfoethog iawn, ac roedd Franz Kafka heb selsig. Cafodd Keith ei enwebu ar gyfer Oscar, ac roedd y môr yn llawn dop o ffolion.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.