Un tro, roedd Dewi Sant wedi penderfynu trefnu arddangosfa tân gwyllt. Nid oes Daf y gath yn hapus o gwbl. Byddai’r pethau erchyll yn gwneud iddo neidio allan o’i groen. Roedd e wedi bygwth Dewi Sant y byddai’n ysgrifennu i’r esgob a’i wahoddi am ymweliad eto, ond fyddai ddim byd yn rhwystro Dewi rhag ei gynllun.
– Mae syniad da ‘da fi, meddai Jeff y gath, a oedd newydd orffen ei seithfed brecwast.
– Be’? gofynnodd Daf.
– Dwed wrtho fe bod hi’n iawn iddo fe gael arddangosfa tân gwyllt, ond rhaid iddo fe wneud hi tu fewn i’w sied.
– Ti’n athrylithydd, cytunodd Daf.
Roedd Dewi Sant i’w weld yn paratoi. Hoeliodd sawl olwyn Santes Catrin i’r wal, ac yr oedd casgliad argraffol o rocedi ar ei gadair. O’r diwedd, roedd e’n barod.
– Pob lwc, meddai Daf, gan gloi drws y sied. Rhedodd pawb i ffwrdd cyn belled â phosib.