Gŵyl bwysig yr Holl Sant oedd e. O ganlyniad, glanhâi Franz Kafka ei selsig tu ôl i sied Dewi Sant er mwyn iddynt fod yn barod i’r gwledd mawr, tra bod yr hanner-siarc yn ymarfer jyglo efo sawl arteffact crefyddol. Nid oedd jyglo’n peth hawdd i neb — neu ddim byd — a oedd heb ddwylo, ond roedd y hanner-siarc yn dalentog iawn, ac roedd Dewi Sant wedi gofyn iddo ddarparu’r adloniant y noson honno.
– Ddylwn i jyglo efo’r hesogydd, neu fyddai ‘ny’n ormod? gofynnodd yr hanner-siarc i Daf y gath, a oedd yn llyfu rhywbeth cyfoglyd gerllaw.
– Ble dest ti o hyd i’r rhain? ymatebodd Daf, yn edrych i lan o’i waith pwysig.
– Sai’mod, meddai’r hanner-siarc. – Nathon nhw jyst ymddangos.
– Paid trystio nhw, cynghorodd Daf. – Falle eu bod yn sbiwyr.
– Iawn, na i ganolbwyntio ar y creiriau ‘te, meddai’r hanner-siarc, gan roi’r hesogydd ar dân.
Yna ymddangosodd Jeff y gath, yn gwisgo ffugwallt penfelen a siorts enwedig o dyn, ac yn cario meicroffon wedi’i orchuddio â deiamwndau yn ei cheg. Syllodd Daf arni’n gegrwth.
– All Saints’ Day, yndife? meddai Jeff.