October 16, 2024

– Daf, Daf, dere ‘ma, meddai Jeff y gath un diwrnod.
– Be ti isie? gofynnodd Daf y gath.
– Dwi ‘di creu gwacter draw fan ‘na rhywsut.

Amneidiodd Jeff ar wely llysiau Franz Kafka, lle’r oedd gwacter o anobaith rhwng dau blanhigion wedi marw. Roedd y gwacter yn un du, dychrynllyd.

– Shwt nath hynny ddigwydd? gofynnodd Daf, heb ddiddordeb.
– Rhywsut, atebodd Jeff, yn ddiniwed.

– T’mod beth, gad i ni roi’r stori hwn yn y gwacter a rhoi’r ffidil yn y tô, meddai Daf.
– Beth am i ni roi’r ffidil yn y gwacter, a rhoi’r stori hwn yn y tô yn ei le?
– Sdim ffidil ‘da ti.
– Iawn, meddai Jeff, a bant â hi i chwilio am fwyd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.