December 24, 2024

“Diwrnod Shwmae Sumae” yw hi. Dyma’r cathod, yn cysgu yn yr ardd. Does dim ots gyda nhw am unrhyw beth ieithyddol heddiw.

“Shwmae!’ meddai Franz Kafka. Mae e’n frwdfrydig am unwaith.
“Gad i fi fod,” meddai Daf y gath, gan lyfu ei draed.

“Shwmae!” meddai Dewi Sant. Mae fe wedi bod yn yfed.
“Gad i fi fod,” meddai Daf, gan ddeintio ar ei gynffon.

“Shwmae!” meddai Santes Dwynwen, yn gwneud cwstard cariad.
“Cer o ‘ma!” meddai Daf, gan ymolchi ei glustiau.

“Wyt ti’n mynd i ddathlu dysgwyr Cymraeg o gwbl, Daf?” meddai Jeff y gath.
“Nadw,” ateba Daf, heb ddiddordeb.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.