Treuliodd Daf y gath sawl diwrnod ar y ffôn, ond, o’r diwedd, daeth plymwr o’r cwmni yswiriant. Hen ddyn heb ddannedd oedd e, gyda chap pêl-fas, a golwg methedig arno. Baglodd i fewn i sied Dewi Sant.
– Mae popeth yn drewi, meddai’r plymwr.
– Ydy, atebodd Daf, – Dyna be’ wedes i ar y ffôn.
– Mae gyda chi broblem mawr.
– Wes, dyna be’ wedes i ar y ffôn.
– Mae’r peips wedi câl eu blocio.
– Do, meddai Daf, yn ddiamynedd. – Daeth yr esgob draw fan hyn am ymweliad.
– Problem gyffredinol, meddai’r hen ddyn yn gydymdeimladol, cyn cau’i lygaid. Roedd y plymwr yn sefyll yn stond, heb wneud dim byd, neu ddweud yr un gair.
– Wel, gallwch chi neud unrhyw beth? gofynnodd Daf.
Dihunodd y plymwr.
– O, na alla i. Bydd rhaid i chi alw’r heddlu.
– Yr heddlu? Pam yn y byd y fyddwn i’n galw’r heddlu?
– Mae rhywun jyst wedi dwyn eich fan.