December 3, 2024

Annwyl Corinthiaid,

Daeth yr esgob draw fan hyn wythnos diwetha, yr hen ynfytyn. Yn anffodus mae hynny yn golygu y bydd rhaid imi ail-wneud y plymio trwy’r sied yn gyfan gwbl. Fyddet ti ddim yn dychmygu y gallai coludd un dyn yn achosi cymaint o lwgr, a phan ddechreuodd popeth ollwng – ond byddai’n well imi beidio parhau, efallai.

Felly, os oes rhif ffôn plymiwr da gyda chi, buaswn yn ddiolchgar tasech yn ei anfon ataf. A peidiwch ag anghofio’r bwyd cathod.

Sut mae traed Sioned nawr?

Dymuniadau gorau,
Dewi Sant x

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.