Oherwydd y prinder tanwydd, roedd cymaint o bethau yn aros am gael eu dosbarthu. Roedd hyn yn dod yn broblem go iawn.
Siaradodd Daf y gath â’r Archfadarch.
– Alli di’n helpu fi? meddai Daf. – Dw i angen rhyw fath o gerbyd sy’ ddim yn defnyddio petrol.
– Wrth gwrs, meddai’r Archfadarch. – Arhosa fan hyn.
A dyma’r Archfadarch yn casglu’r madarch at ei gilydd, cyn perfformio defod go ddirgel gyda moronen. Ymddangosodd cerbyd pren od, â chwe olwyn, gyda ymbarèl yn lle tô.
– Beth yw hwnna? gofynnodd Daf.
– Dw i ddim yn siŵr, atebodd yr Archfadarch, – ond gobeithio bydd e’n gwneud y tro.
– Shwd wyt ti’n danio fe?
– Gadewch i ni ddarllen y canllawiau.
Ymestynnodd yr Archfardarch am bamffled cyfleus a oedd ar y sedd ffrynt.
– O na.
– Be’ sy’? gofynnodd Daf.
– Mae e’n rhedeg ar gwstard.
– Sdim cwstard i gael.
Cadarnhaodd Santes Dwynen nad oedd cwstard i gael.
Hedfanodd clêr i fewn i geg yr Archfadarch. Poerodd e allan, a rhodd syniad iddo. Arweiniodd defod arall, gyda dau moron a choronig y tro hwn. Ymddangosodd cerbyd hollol anferth, â arfwisg a thrac lindys. Unwaith eto, roedd yna bamffled ar y sedd ffrynt.
– Dyma ni, meddai’r Archfadarch.
– Beth yw e’n rhedeg arni?
– Cerbydau sy’n rhedeg ar gwstard.
– Am gyfleus.
Llwythasant y cerbyd cyntaf i fewn i’r llall, taniodd yr injan, a bant â nhw i wneud dosbarthiadau.