Un tro, roedd Daf wedi penderfynu rhoi darlith i’r madarch. Roedd gyda fe ddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth, fel mater o ffaith. Bocs mawr â chaead yn gynnwys powlen o fwyd cathod yr oedd o’i flaen. Tawel oedd ei gynulleidfa o fadarch, yn edrych ar Daf yn ddisgwylgar.
– Reit, ‘te, meddai Daf, – dw i’n mynd i esbonio arosodiad cwantwm gan ailadrodd fersiwn o arbrawf Schroedinger, sef Gath Schroedinger. Dyma’n nghynorthwyydd hyfryd, Jeff, meddai, gan ddangos ei ffrind calico.
Roedd golwg ofnus ar y madarch.
– Wyt ti’n mynd i’w haneru â llif? gofynnodd un ohonynt.
– Nadw, sdim Sellotape ‘da fi, ymatebodd Daf.
Parhaodd y gath wyddonol.
– Gall pethau’n bodoli mewn cyflyrau amrywiol ar yr un pryd. Ni’n newid pethau gan ‘u sylwi nhw. Os fydda i’n cau’r caead, bydd y bwyd cathod yn bresennol ac yn absennol. Nid cyn i ni ail-agor y caead bydden ni’n gwbod pa un.
Caeodd y caead, ac aros am funud.
Pan ei ail-agorodd e Daf, roedd pawb yn gallu gweld powlen wag, a chath lawn yn y bocs. Roedd Jeff wedi bwyta popeth.
– Shwt wnest ti hwnna? meddai madarch.
– Hyblygrwydd. Galla i fodoli mewn cyflyrau amrywiol ar yr un pryd, meddai Jeff, gyda winc.
– QED, meddai Daf.