Un tro, wrth i’r sosban fach yn berwi cwstard cariad Santes Dwynwen yn hapus, roedd Daf y gath yn syllu ar sied Dewi Sant, a oedd nawr yn llawn dop o fwyd cathod. Doedd dim llawer o le ar ôl i Dewi Sant orwedd i lawr, heb sôn am groesawu ei gariadon ef gyda’r nos.
– Rhaid i ni wneud rhywbeth i helpu, meddai Daf i’w ffrind calico Jeff.
– Paid gofyn i fi am help, wi’n fishi, atebodd Jeff, cyn rhedeg bant i chwarae gyda’r hanner-siarc.
– Beth am i ni adeiladu llawr arall i’r sied? gofynnodd Daf i Franz Kafka, a oedd wedi bod yn cuddio tu ôl i’r trebuchet.
– Syniad da, ymatebodd Kafka, – ond does dim unrhyw obaith.
Yn sydyn, daeth syniad i Daf a byddai’n arbed llafur. Rwbiodd e botel y genie, a ymddangosodd mewn cwmwl o fwg.
– Genie’r botel dw i, meddai’r dyn glas enfawr. – Galla i ganiatàu tri dymuniad. Beth yw dy ddymuniad cyntaf?
– Am gyfleus, meddai Daf. – Hoffwn i lawr arall i’r sied hon.
– Da iawn, atebodd y genie, cyn iddo greu llawr cyntaf i’r sied drwy hud a lledrith.
– Beth yw dy ail ddymuniad?
– Grisiau, meddai Daf.
– Rhaid imi dweud dy fod ti’n gath ymarferol iawn, meddai’r Genie, a chreu grisiau.
– Beth yw dy drydydd ddymuniad?
Yr eiliad hon, cyrraeddodd Jeff, gyda dyn dosbarthiadau a oedd yn cario pentwr o focsys.
– Alli di fynd â’r rhain i lan i’r llawr cyntaf plîs, Mistar Genie? meddai hi. – Diolch yn fawr.
Rowliodd y genie ei lygaid.
– Da iawn.
– Beth sy’ yn y bocsys? gofynnodd Daf.
Cododd Jeff ael yn ddiniwed.
– O, dw i’n gweld, meddai Daf. – Well i ti ofyn i’r genie am sied arall.
– Na fyddai. Na i sgwennu at y Corinthiaid unweth eto, meddai Jeff. – Sdim dymuniadau ar ôl i ni.
Cwmpodd Dewi Sant i lawr y grisiau, yn ddramatig. Dyna oedd y lleia y gallai e wneud.