Un tro, roedd Draig y ci yn bod yn frwdfrydig. Roedd pêl gydag e.
– Draig dw i – bachgen da dw i – dw i’n hoffi chwarae – dw i’n hoffi peli – dw i’n hoffi chwarae gyda pheli – bachgen da dw i – fyddi di’n chwarae gyda fi, plis – plis – plis?
– Draig, gad llonydd i fi, neno’r Tad, meddai Daf. – Dw i’n trio llyfu’n nhraed fan hyn.
Ailddechreuodd Draig.
– Bachgen da dw i – fyddi di’n chwarae gyda fi, plis – plis – plis?
Cydiodd Daf yn y bêl gyda’i ewinedd a’i byrstio.
– Bachgen trist dw i, meddai Draig, a sleifio bant. Dychwelodd Daf i’w draed.