Roedd Dewi Sant yn taflu llwythau o sbwriel allan o’i sied. Hedfanodd sawl teledu drwy’r awyr, a laniodd mewn gwely blodau. Roedd hefyd sawl nicars Santes Dwynwen, ac, i syrpreis pawb, sawl nicars y Frenhines Branwen hefyd.
Casglodd Daf y gath y nicars.
– Galla i werthu’r rhain ar eBay new ymlân, meddyliodd.
Daeth Jeff y gath o hyd i botel anghyfarwydd ymhlith y sbwriel, â gwerth canrif o lwch arni.
– Man a man a mwnci, meddai, a rhwbio’r hen beth.
Ymddangosodd dyn glas, â bola anferth, a oedd yn hollol noeth.
– Genie’r botel dw i, meddai’r dyn. – Galla i ganiatàu tri dymuniad i ti. Beth yw dy ddymuniad cyntaf?
– Bwyd, plis, meddai Jeff.
– Da iawn.
Ymdangosodd pentwr o focsys o fwyd cath.
– Beth yw dy ail ddymuniad? gofynnodd y genie.
– Bwyd, plis, meddai Jeff.
– Ti’n siŵr? Ti ddim isie bod yn seren roc fel Elvis?
– Nadw. Bwyd, plis, meddai Jeff.
– Da iawn.
Ymddangosodd pentwr arall o focsys.
– Beth am dy drydydd dymuniad? gofynnodd y genie.
– Galli di’u rhoi nhw yn y sied fan hyn? Mae ‘na ddigon o le iddyn nhw nawr wrth ymyl y dosbarthiad o fwyd gan y Corinthiaid, meddai Jeff.
Cariodd y genie y bocsys o fwyd cath i mewn i’r sied.
– Diolch yn fawr, meddai Jeff i’r genie.
– Helo, meddai Daf i’r genie, yn edrych ar ei noethlymun. – Wyt ti isie prynu nicars?