Dihunodd Dewi Sant yn hwyr. Roedd e wedi cael noson hir o ddiodydd cryfion gyda Santes Dwynwen, a oedd nawr yn anymwybodol mewn cornel o’r ardd. Agorodd drws ei sied a gweld pentwr mawr o focsys.
– Be’ sy’…? meddyliodd, cyn iddo weld amlen. Dechreuodd ddarllen.
Annwyl Dewi,
Diolch am eich llythyr, a oedd bach o syrpreis. Cawson ni wyliau da iawn, er bod Barry yn sâl ar ôl iddo fwyta cranc.
Dyma ddigon o fwyd cath am flwyddyn. Gobeithio y bydd yr hyn yn help i’r cathod yn eich cymuned chi. Dych chi wedi ail-adeiladu’r eglwys eto?
Cofion cynnes,
Y Corinthiaid (Marge, Barry a Sioned)
Edrychodd Dewi Sant ar y bocsys o fwyd cath yn ddryslyd. Clywodd sŵn. Sŵn fel… crafu.
Ymddangosodd Jeff y gath, â phecyn o fwyd yn ei cheg.
– Bendigedig, ondife? meddai. – We fi’n synnu bo nhw ‘di ateb mor glou.
A bant â hi, i fwynhau ei chweched brecwast.
Rowliodd Daf y gath ei lygaid, a helpu Dewi Sant i roi’r bocsys yn y sied.