October 16, 2024

Lle mae Jeff y gath galico eisiau bwyta pawb a phopeth.

Mae Jeff newydd orffen ei brecwast hi. Dyma hi’n llyfu ei choesau, cyn mewio’n uchel. Dyma Daf y gath sinsir, yn meindio ei fusnes ei hun.
“Beth sy’n bod arnat ti?” gofynniff Daf.
“Mae chwant bwyd arna i. Dw i angen bwyta,” meddai Jeff.
Mae Jeff yn mynd i hela llygod. Mae Dewi Sant yn gweld beth sydd yn mynd ymlaen, a pharatoi powlen newydd o fwyd. Dyma Jeff, yn rhedeg ar draws y glaswellt.

***

Mae Jeff newydd orffen ei ail frecwast hi. Dyma hi’n gwylio Santes Dwynwen, sydd yn dadlau gyda Phwyllgor Piwritanaidd y Tatws. Yn sydyn, mae Jeff yn dechrau mewio’n uchel.
“Beth sy’n bod arnat ti nawr?” gofynniff Daf.
“Mae chwant bwyd arna i. Dw i angen fy nhrydydd brecwast,” meddai Jeff.
Mae Jeff yn mynd i hela colommenod. Does dim yr un colomen i gael. Mae Dewi Sant yn gweld beth sydd yn mynd ymlaen, a pharatoi basnaid mawr o fwyd. Dyma Jeff, yn rhedeg ar draws y glaswellt.

***

Mae Jeff newydd orffen ei thrydydd brecwast hi. Mae hi’n rownd iawn nawr. Yn sydyn mae hi’n dechrau mewio’n uchel.
“Beth sy’n bod arnat ti nawr?” gofynniff Daf. “Wyt ti’n mynd i ofyn am frecwast arall er mwyn dangos sut i ddefnyddio rhifau trefnol?”
“Ydw,” meddai Jeff. “Mae chwant bwyd arna i. Dw i angen fy mhedwerydd brecwast.”
“Mae hyn fel rhywbeth syth mas o Kafka,” meddai Daf.
“Ydy wir,” meddai Kafka, sydd yn ymguddio tu ôl i goeden.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.