Un tro, roedd Daf y gath yn crwydro o gwmpas yr ardd, pan sylweddolodd y doedd e ddim yn gallu gweld ei bowlen bellach.
– O na, meddyliodd, bydd Jeff yn cwyno ymhen munud neu ddwy.
Ymhen munud neu ddwy, decheuodd Jeff gwyno.
– Sai’n gallu gweld fy mhowlen, meddai. – Ble mae’r staff?
– Mae’r staff wedi mynd, meddai Daf. – Gwranda, bydd rhaid i ni weld yr optegydd.
Neidiodd y ddwy gath i fewn i fan Daf. Taniodd Daf yr injan, cyn rasio i ffwrdd.
– Mae dy fan newydd yn cymfi iawn, meddai Jeff.
– Ody wir, meddai Daf. – Mae blychau plastig wastod yn gymfi.
Cyn bo hir, parciodd Daf ei fan ar yr Heol Fawr.
– Ble mae’r optegydd? gofynnodd Jeff. – Sai’n gallu gweld e.
– Sai’mod, atebodd Daf.
– Shwd ni’n mynd i wneud prawf llygaid os ni ddim yn gallu ffeindio’r optegydd?
– Sai’mod, meddai Daf, heb ddiddordeb. – Gallen ni mynd gytre ac osgoi’r holl beth?
Amneidiodd Jeff. Aethant y cathod gartref ac osgoi’r holl beth.