– Daf, dere fan hyn, meddai Jeff y gath galico. – Dw i ‘di bod yn sgwennu cyfraith.
– Iawn, meddai Daf, heb ddiddordeb.
Dangosodd Jeff darn o bapur i Daf.
CYFRAITH NEWYDD JEFF
Bydded bwyd.
– Wel, mae’n syml o leia, meddai Daf.
– Ac yn hyblyg, meddai Jeff.