October 16, 2024

Ar ôl i Gor Meibion Ffosgoch ddinistrio’r gât, cynhaliodd Daf a Jeff gyfarfod gyda phawb yn yr ardd, er mwyn penderfynu beth i’w wneud am y drygioni mawr hwn. Arllwysodd Dewi Sant diod cryf, a thanio sigaret, cyn cwympo yn ôl i gysgu. Siarad ymysg eu gilydd yr oedd Pwyllgor Piwritanaidd y Tatws tan i’r Prifdaten clirio ei wddf.

– Oes agenda gyda ni? meddai’r Prifdaten.
– Wel, nac oes, meddai Daf, – we fi’n meddwl bydden ni’n jyst câl sgwrs bach.
– Rhaid i ni gael agenda.

– Oes cadeirydd gyda ni? meddai’r Prifdaten.
– Wel, nac oes, meddai Daf, – we fi’n meddwl bydden ni’n jyst câl sgwrs bach.
– Rhaid i ni ddewis cadeiryddFi fydd y cadeirydd, yn amlwg.
– Iawn, meddai Daf, heb ddiddordeb, a dechrau llyfu ei goes.

– Gall Santes Dwynwen fod yr ysgrifennydd, meddai’r Prifdaten.
– Secsist, meddai Daf.
– Rydych chi eisiau’r swydd?
– Gall Santes Dwynwen fod yr ysgrifennydd, meddai Daf.

Dair awr yn ddiweddarach, roedd pawb yn cysgu’n sownd, heblaw am y Prifdaten, a oedd nawr yn gwneud proclamasiynau amrwyiol am bopeth i’w gynulliad amwybodol.

Dihunodd y Frenhines Branwen a dinistrio’r stori, a ddaeth i’w ddiwedd, o’r diwedd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.