Tawel oedd popeth yn yr ardd. Roedd Dewi Sant yn chwyrnu yn ei babell newydd, a oedd e wedi gwneud o hen ddillad Santes Dwynwen. Roedd hi’n hollol noeth, yn cysgu’n sownd ar y glaswellt ar ei ochr, ac yn breudwyddio am lyn anferth o gwstard. Roedd Daf y gath a’i ffrind Jeff yn darhuno’n ysgafn, ochr yn ochr, tu fewn i fan newydd Daf, er mwyn iddynt amddiffyn y nwyddau yr oedd angen ar Daf ddosbarthu.
Yn sydyn, daeth sŵn ofnadwy o uchel.
– CALON LÂN YN LLAWN DAIONI, gweiddiodd rhywbeth anferth, yn agosàu.
Agorodd Daf ei lygaid.
– O na, meddai.
Cafodd y gât ei chwilfriwo yn deilchion, wrth i Gor Meibion Ffosgoch ymddangos, ar gefn beic modur pwerus. Roedd e wedi trefnu ei hunan arno yn ofalus iawn.
– TECHACH YW NA’R LILI DLOS, bloediodd y Cor Meibion, wrth iddo yrru dros babell Dewi Sant.
– Ni’n ffodus bo’ nhw’n anfarwol, meddyliodd Daf, – neu fyddai rhaid i ni ffeindio mwy o gymeriadau.
Erbyn hyn, roedd Jeff wedi cael ei dihuno gan y berw gwyllt.
– Jeff, i’r trebuchet, glou! meddai Daf.
Tynnodd Jeff y rhaff, tra lwyddodd Daf i lwytho Cor Meibion Ffosgoch i fewn i fasged y trebuchet.
– Bant â ni, meddai Daf.
Rhyddhaodd Jeff y rhaff, a gwnaeth y peiriant ei stwff. Hedfanodd Cor Meibion Ffosgoch trwy’r awyr mewn arc deleithus, cyn iddo lanio mewn gardd arall, sawl stryd i ffwrdd.
– Gâd i hwnna fod yn wers i ti, meddai Daf.
Gadawodd Cor Meibion Ffosgoch i hwnna fod yn wers iddynt. Am y tro.