Gan ei fod yn fachden da, roedd Draig y ci’n gwylio Daf y gath, wrth iddo gychwyn ei fenter newydd, yn swalpio ei gynffon. Roedd Daf wedi gwneud blif o weddillion sied Dewi Sant, ac roedd e’n esbonio sut byddai fe’n gweithio i Jeff. Nid oedd argraff mor dda arni.
– Menter newydd yw hwn, meddai Daf. – Dw i’n datblygu fy musnes dosbarthiadau.
– Beth yw e? gofynnodd Jeff, heb ddidordeb.
– Wel, we fi isie’i alw fe’n trebuchet, ond so fe yn fy ngeiriadur.
– Blif, ‘te?
– Ie, blif yw e.
– Be ti mynd i neud ag e? gofynnodd Jeff.
– Neith e achub lot o amser. Drycha. Galli di ddosbarthu unrhyw beth i bedwar ban y byd.
Cododd Jeff ael.
– Wel, o fewn pum can metr, o leia. Gwylia hwn.
Cododd ei bawen ar Draig y ci.
– O Daf, paid, meddai Jeff.
– Dere fan hyn, gwboi!
– Bachgen da dw i. Draig dw i.
– Ie, fi’n gwbod. Dere!
Llwythodd Daf Draig i fewn i’r basged, tynnu’r rhaff, a gadael i’r peiriant gwneud ei stwff. Caeth Draig ei daflu i fyny i’r awyr yn sydyn, cyn iddo ddechrau gwneud symudiadau od. Arhosodd lan yn yr awyr, yn hedfan o gwmpas yn hapus.
– Dyna annisgwyl, meddai Daf.
– Dyna hyblygrwydd, meddai Jeff.