Roedd Jeff y gath yn yrrwr arswydus o ddrwg. Doedd hi erioed wedi gyrru sied o’r blaen, ac roedd y sied hon yn un gyflym iawn.
– Ti’n beryglus, t’mod, meddai Daf, wrth iddi daro’r ddau flwch post y pentre (un ar gyfer pobl llawchwith, un ar gyfer pobl llawdde). Trodd Jeff y gornel. Taflodd hen fenyw ei siopa i’r awyr wrth iddi drio osgoi’r sied, yr oedd nawr yn rhuthro ar hyd y palmant.
– O na, meddai Jeff.
– Be sy? gofynnodd Daf.
– So’r brêcs yn gweithio rhagor, meddai Jeff. – Daliwch yn dynn.
Roedd y sied yn awr yn anelu at dŷ fel cath i gythraul. Torrodd wal, a malu’n deilchion.
– Wps, meddai Jeff, yn edrych ar y ddau Sant yn cysgu’n sownd yn y llongdrylliad.
– Drycha ar be dw i ‘di ffeindio, meddai Daf. – Blwch plastig neis iawn. Dyma beth we fi’n chwilio amdano. Ac mae rhywun wedi gadael yr allweddi ynddo fe. Bydd hwn yn well nag unrhyw sied. Neidia i mewn.
A bant â nhw.
Dihunodd y Frenhines Branwen, edrych ar yr holl lanast, a griddfan.
– FI SYDD AR FAI, llefodd.