Ar ôl i Jeff y gath awgrymu dwyn sied Dewi Sant er mwyn i Daf gael cerbyd am wneud ei ddosbarthiadau, dechreuodd y cathod gynllunio.
Roedd angen iddynt aros tan yr oedd Dewi’n fflyrtan gyda Santes Dwynwen, neu’n ysmygu ger y gwely rhosod. Yn anffodus, roedd gan Dewi Sant syniadau eraill heddiw. Un am yfed oedd y Sant, ac oedd e’n eistedd gyda’r Frenhines Branwen yn y sied, yn arllwys diodydd cryf, un ar ôl y llall. Erbyn hyn, roedd Branwen yn feddw iawn.
– Ŵŵŵŵ, meddai Branwen, – edrycha ar y cathod. Nid yr ydwyf wedi gweld cathod mor bert o’r blaen. Helo cathod!
Plygodd Branwen i lawr, yn ddi-ddal. Bytheiriodd.
Camodd Daf tuag at y Frenhines yn reddfol. Arhosodd am eiliad.
– Nathon ni gwrdd â’n gilydd mewn stori arall, actually, meddai Daf, heb ddiddordeb.
– GLOU! criodd Jeff, a neidiodd i fewn i’r sied.
– Be ti neud? meddai Daf.
– Man a man eu herwgipio. Bydd hi’n hwyl.
Cyn i Dewi Sant a’r Frenhines Branwen sylweddoli beth oedd yn digwydd, dilynodd Daf Jeff i fewn i’r sied, ffeindiodd Jeff yr allweddi a thanio’r injan.
– Dalwch ych afael yn dynn! meddai Jeff, a bant â nhw.