October 16, 2024

Un noson, roedd Jeff y gath galico’n lwgu, fel arfer.

– Ble mae’r staff? bloediodd Jeff.
– Ti isie mynd am gyri? gofynnodd Daf y gath, ar ôl iddo orffen ymolchi ei hunan.
– Wnei di yrru? meddai Jeff.
– Na i, atebiodd Daf, wrth iddo ddwyn sgwter Santes Dwynwen (achos yr oedd ei fan wedi ei losgi). – Neidia arno.
– Mae’n ludiog, cwynodd Jeff.
– Wel, ‘na ni, meddai Daf, gan danio’r injan. – Jyst paid baeddu e rhagor.

Pan gyrraeddodd y cathod y bwyty, dilynasant weinydd i’u bwrdd.
– Beth hoffai’r bonheddwr? meddai’r gweinydd, yn foesgar iawn.
– Na i gymryd bhaji nionyn i ddechrau, a chyri cyw iâr gyda bara naan, plis, meddai Daf.
– Ac ar gyfer y foneddiges?
– Dw i isie bwyd, meddai Jeff.
– Fe allwch chi fod ychydig bach yn fwy penodol?
– Dw i isie lot o fwyd.
Oediodd y gweinydd.
– Dw i isie’r holl fwyd. I gyd.

Ar ôl iddyn nhw gwblhau eu prydau o fwyd, roliodd Daf Jeff tuag at sgwter Santes Dwynwen.
– Diolch byth fod e’n ludiog, meddai Jeff, gan lynu ei hunan i’r cerbyd.
– Bant â’r cart, meddai Daf.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.