December 24, 2024

– Rhan ola o’r stori yw hwn, meddai Daf y gath. – Well i ni neud rhywbeth nodedig.
– Fi’n gwbod, atebiodd Jeff y gath, ond dw i ‘di cael fy nhroi ‘nôl mewn gath yn barod gan y ffrwydrad.
– Am gyfleus.
– Felly, sdim byd i’w neud.
– Na, sdim byd i’w neud.
– Gadewch i ni fynd.
– So ni’n gallu.
– Pam lai?
– Ni’n aros am Dewi Sant.

Aeth Dewi Sant heibio, yn canu cân am sanau Santes Dwynwen nerth ei ben. Ailymddangosodd yr het-fadarchen, a dringo yn ôl ar ben Jeff.

– Fy het! Mae hapusrwydd yn codi ac yn troi yn wir rhywbryd, meddai Jeff.

Oediodd y ddwy gath.
– Bydd rhaid i ‘ny neud y tro, meddai Daf, a chwympo i gysgu.

Daeth y stori i’w diwedd, o’r diwedd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.