October 16, 2024

Ar ôl i Jeff gael ei droi yn het fowliwr, aeth Daf y gath i weld Dewi Sant, a oedd yn smygu y tu allan i’w sied.

– Allet ti’n helpu fi droi Jeff nôl mewn gath?
Pendronodd y Sant am eiliad.
– Galla i. Gweiddiwn.
– On’d y’ch chi’n meddwl “Gweddiwn”? gofynnodd Daf.
– Nadw. Gweiddiwn.

Felly, gwaeddasant ar y madarch, a chiliodd i fewn i’r ddaear.

Gwaeddasant ar Dragon y ci, a daeth yn drist achos bachgen da’r oedd e.

Gwaeddasant ar Santes Dwynwen, a gollyngodd ei chwstard.

Gwaeddasant ar Bwyllgor Piwritanaidd y Tatws, a datganodd rhyfel ormes ar y riwbob.

– Wel, dyna lot o hwyl, meddai Dewi Sant.
– So ‘ny ‘di gweithio, meddai Daf, yn edrych ar Jeff, a oedd yn dal yn het.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.