October 16, 2024

Mae Daf y gath yn yr ardd gyda Jeff, ei ffrind calico. Maen nhw’n trafod dillad.
“Bachgen dw i,” meddai Daf, “felly dw i’n gwisgo trowsus.”
“Ferch dw i,” meddai Jeff, ac oedi. “Felly dw i’n gallu gwisgo unrhyw beth dw i eisiau.”
“Fel het?”
“Yn union, fel het.”
“Ond does dim het gyda ti.”
“Nid oes trowsus gyda ti chwaith.”
Mae Daf yn amneidio ac yn meddwl am eiliad.
“Gyda llaw, pam mae enw bachgen gyda ti?” meddai Daf.
“Hyblygrwydd,” meddai Jeff. Mae hi’n mynd i brynu het newydd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.