October 16, 2024

Dyma Daf. Cath sinsir yw Daf. Mae e’n byw ym mhentre Ffosgoch gyda’i ffrindiau Jeff, sydd yn gath galico, a Draig, sydd yn gi du. Maen nhw’n chwarae gyda’i gilydd mewn gardd hudolus.

Un bore Mercher, mae Jeff yn gofyn i Draig: “Dw i’n mynd i’r siopau. Wyt ti eisiau unrhyw beth?”
“Nac ydw, diolch,” meddai Draig.
Wedyn, mae Jeff yn gofyn i Daf: “Dw i’n mynd i’r siopau. Wyt ti eisiau unrhyw beth?”
“Ydw,” meddai Daf. “Dw i eisiau dau crwban, saith hwyaden, hanner siarc, a llygoden mawr, os gweli di’n dda.”
“Beth wyt ti’n mynd i wneud gyda nhw?” meddai Jeff.
“Jyglo,” meddai Daf.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.