Rholiodd Daf sigarèt catnip a chaeth brofiad seicedelig tra bod Jeff yn mynd i siarad â’r madarch. Crafodd hi ar y ddaear drosodd a throsodd. Ymddangosodd arweinydd y madarch a oedd golwg dan straen arno. Efallai’r oedd e wrthi’n gwneud rhywbeth pwysig iawn.
– Beth ar y ddaear yw eich meddwl? meddai’r madarchen, wrth wgu.
Roedd y madarch hudol fel arfer yn fodlon helpu. Beth sy’n bod arno fe? meddyliodd Jeff.
– We fi ar ganol araithio ar bwnc hynod o bwysig.
– Beth?
– Sai’n cofio.
– Edrychwch, meddai Jeff, mae rhaid i ni gael gwared o’r ddraig anferth hon. Mae hi ‘di gwasgu planhigyn catnip a llosgi’r llawnt, ac allwn ni ddim ei gadael hi’n gorwedd yno.
– So hi’n lew, mae hi’n ddraig, meddai’r madarchen, yn falch iawn ohono fe’i hunan.
Rowliodd Jeff ei llygaid.
– Ac yn bwysicach, dw i’n rîly llwgu. Dw i isie troi’r ddraig ‘na’n fasnaid mawr o gwstard.
Parhaodd Daf i gael ei brofiad seicedelig.
– Iawn, bydd angen i ni wneud defod. Ond mae rhaid i fi dy rybudd – bydd hi’n un gymhleth.
Erbyn hyn, roedd chwant cwstard ar Jeff yn daer iawn. Cytunodd.