October 16, 2024

Daeth Jeff o dan gât yr ardd, gyda bach o ymdrech. Cath calico oedd hi, yr oedd tamaid bach yn dew. Wel, dim yn dew yn union. “Esgyrn mawr” oedd gyda hi.

– Ble mae’r staff? meddai Jeff, yn anywybyddu’r lwmp mawr o ddraig a oedd o’i blaen hi.

– Sai ‘mod, atebai Daf y gath. – ond edrycha ar hon.

Cafodd Jeff gipolwg ar y ddraig, a oedd yn cysgu’n sownd unwaith eto. Doedd hi ddim yn perthnasol i’w diddordebau hi.

– So hi’n berthnasol i’n niddordebau. Ble mae’r staff? Ble mae’r staff?

Ymddangosodd aelod o staff trwy’r drws cefn, yn cario dwy bowlen. Oediodd, ac yna taflu’r powlenni i lan i’r awyr, cyn rhedeg bant yn sgrechian.

– Amdani, meddai Jeff.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.